Tystlythyron

Rydym ni'n gweithio gyda chyrff di-elw, sefydliadau newyddion, llyfrgelloedd, a grwpiau cymunedol o gwmpas y byd. Dyma rai tystlythyron gan bartneriaid sydd wedi helpu i lywio'r prosiect.

Am y tro cyntaf, roedd y rhifau [o'n granteion] yn gyson. Roedd y cyrff di-elw yn cymryd sylw. Gofynnom iddyn nhw ddisgrifio sut roedden nhw'n casglu data, ac roedden nhw'n gallu cyfleu sut oedden nhw'n casglu data yn llawer gwell nag yn y gorffennol. Helpodd hyn i ni greu proses adrodd well. Erika Lapsys, Telluride Foundation Darllenwch yr Astudiaeth Achos Lawn (Saesneg yn unig)

Dechreuodd cyfranogwyr edrych ar ochrau gwahanol dadl a sut rydych chi'n adeiladu hynny ar sail eich cynulleidfa a beth sy'n fwyaf perthnasol, fel pa ddarn o ddata sy'n fwy perthnasol i ba fath o randdeiliad. Maryna Taran, World Food Programme Darllenwch yr Astudiaeth Achos Lawn (Saesneg yn unig)

Helpodd rhaglen DCP i ni edrych ar ddata mewn ffordd wahanol, yn enwedig drwy WordCounter, sy'n delweddu testun yn gymylau geiriau. Yn hytrach na dysgu i ni barablu am ystadegau'n unig, rhoddodd y gweithdy hwn y cyfle i ni ddweud ein stori mewn ffordd newydd a gweledol. Roedd y rhaglen yn hygyrch i bobl o bob lefel beth bynnag eu cefndir a'u cysur cychwynnol gyda dadansoddi data. Bellach mae ein haelodau staff yn gallu defnyddio data'n fwy effeithiol boed ar gyfer cyfryngau cymdeithasol neu am adroddiadau grant. Jennifer Connolly, Junior Achievement of Western Massachusetts Darllenwch yr Astudiaeth Achos Lawn (Saesneg yn unig)

Gadawodd Data Culture Project i ni newid meddylfryd am ddata. Yn fwy na Phrosiect sy'n canolbwyntio ar offerynnau dysgu, gadawodd i ni fynd ymhellach, drwy fynd yn ôl i'r hanfodion, a'r hyn roedd ei angen yn bennaf: diwylliant data. Rydym ni bellach yn gweithio gyda gwahanol sefydliadau newyddiaduraeth lleol — ac adrannau gwahanol o'u mewn — i gydweithredu a dechrau gweithio tuag at mwy o newyddiaduraeth-ddata. Rydym ni'n ddiolchgar am fod yn rhan o'r Peilot, ac edrychwn ymlaen at barhau yn rhan o gymuned gynyddol Prosiect Diwylliant Data. Andrés Felipe Vera Ramírez, El Mundo/Radio Clarin

Helpodd rhaglen DCP i ni gael sgyrsiau am sut rydym ni'n defnyddio data fel sefydliad. Roedd yr offerynnau'n hygyrch ac roedd cyflymder y gweithdai'n wych. Helpodd gwneud gweithdai gyda Rahul a Catherine ni i neilltuo amser i ganolbwyntio o ddifrif ar ddadansoddi data a thrafod sut allem ni ei ddefnyddio'n well yn fewnol i gyflawni ein hamcanion. Roedd DCP o gymorth mawr i ni ddechrau adeiladu arferion gwell mewn perthynas â dweud storïau ar sail data. Michael Morisy, MuckRock

Ar ôl cynnal y rhaglen DCP gyda'n cwmnïau partner, gwelais newid mawr mewn sut roedd ein partneriaid yn trin data. Yn ogystal â dadansoddi ac adrodd data yn fwy cyson, roeddent yn gallu disgrifio sut roeddent yn casglu data. Mwynhaodd ein partneriaid ddefnyddio WordCounter am ei fod yn hygyrch iawn ac yn eu galluogi i ddweud storïau gwell. Rwy'n dal i dderbyn adborth oddi wrth bobl sy'n rhoi cynnig arno am y tro cyntaf ac yn eu helpu i'w gymhwyso i'w sefydliadau nhw. Erika Lapsys, Telluride Foundation

Fel ariannwr ymchwil iechyd, mae gan MSFHR lawer o staff sy'n gweithio gyda data bob dydd, ond mae eraill yn y sefydliad yn llai cyfarwydd â sut mae data yn llywio'r ffordd rydym ni'n gweithio. Roedd y Data Culture Project yn gyfle hwyl, hygyrch i dimau o bob rhan o'r sefydliad ymarfer gweithio gyda data, a sbarduno pawb i siarad a meddwl am ddata mewn ffyrdd newydd. Roeddem ni'n gyffrous i weld lefel y cyfranogiad ac yn arbennig o hapus i weld pobl nad ydyn nhw'n nodweddiadol yn defnyddio data yn eu rolau bob dydd yn ymddiddori yn y sesiynau. Roedd cymryd rhan yn y prosiect o gymorth i hybu ein meddwl am ymwybyddiaeth o ddata ledled y sefydliad, ac rydym wedi ein hysbrydoli i barhau â'r gwaith da yma. P'un a ydych chi'n gorff di-elw sy'n ceisio sbarduno mwy o ddiddordeb mewn data, hyrwyddo llythrennedd data yn eich tîm, neu fyfyrio ar yr rôl mae data'n ei chwarae yn eich gwaith, mae'r Data Culture Project yn fan cychwyn gwych. Michael Smith Foundation for Health Research

Ymhlith y diffiniadau sydd ar gael am lythrennedd data, roeddem ni'n meddwl bod eich diffiniad chi a'ch cydweithiwr yn un cryno a thrylwyr, gan esbonio cysyniad anodd mewn dull syml iawn a'i wneud yn berthnasol i unrhyw ddisgyblaeth. Mae'ch diffiniad yn gweddu i'n nodau ni sef addysgu llyfrgellwyr eraill a'n cymuned am lythrennedd data a beth mae'n ei olygu i fod yn llythrennog o ran data. Diolch am adael i ni ailddefnyddio ac addasu'ch diffiniad at ein dibenion ni. The Data & Digital Literacy Group – River Campus Libraries, University of Rochester