Argyhoeddwch Fi

Ymarferwch wneud dadleuon seiliedig ar ddata y gellid eu defnyddio i gael cynulleidfaoedd gwahanol i newid eu hymddygiad

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 30 i 45 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

1

Cychwyn y Gweithgaredd

Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn ymarfer defnyddio data i greu dadleuon sy'n ceisio argyhoeddi pobl wahanol. Byddwch yn dysgu sut mae defnyddio data i deilwra dadl ar gyfer cynulleidfa benodol. Byddwn ni'n edrych ar ddelweddu enghreifftiol ynghylch mater, yn adnabod rhanddeiliaid sy'n ceisio cael eu hargyhoeddi gan y stori mae'n ei dweud, ac yn ceisio gwneud dadleuon sy'n eu hargyhoeddi i weithredu. Dechreuwch y gweithgaredd drwy chwarae'r fideo cychwyn isod i'ch grŵp.

2

Gofynnwch i Bawb Rannu Eu Hadborth

Chwaraewch y fideo hwn ar ôl i chi orffen gwneud dadleuon i argyhoeddi'ch rhanddeiliaid gwirfoddol i symud ymlaen. Gofynnwch i bobl wahanol esbonio pam y gwnaethant eu dadleuon hwythau, a holwch y rhanddeiliaid pam llwyddodd rhywbeth i'w hargyhoeddi neu beidio. Amlygwch debygrwyddau yn y dadleuon a wnaeth pobl, neu'r dadleuon a weithiodd i un gynulleidfa ond na fyddent o bosibl i gynulleidfa arall. Tynnwch sylw at ddefnyddiau arbennig o gryf o ddata i gefnogi dadleuon er mwyn cychwyn sgwrs am sut mae defnyddio data mewn dulliau priodol i argyhoeddi pobl.

3

Dewch â'r Sesiwn i ben a siaradwch am y Camau Nesaf

Nawr eich bod wedi ymarfer hyn gyda data enghreifftiol, bydd y fideo hwn yn eich helpu i feddwl am be i fynd nesaf. Er enghraifft, pwy yw rhai o'r prif gynulleidfaoedd mae'ch sefydliad yn ceisio eu hargyhoeddi? Beth yw rhai o'r baglau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw wrth lunio dadleuon ar gyfer cynulleidfaoedd penodol?